P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn – Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor, 27.09.17

 

                 SYLWADAU YCHWANEGOL AR GYFER Y PWYLLGOR DEISEBAU

HOFFWN gyflwyno’r sylwadau ychwanegol er mwyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Deisebau sy’n cyfarfod dydd Mawrth nesaf.

Os cofiwch chi, roedd ein deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i goffau William Williams, Pantycelyn yn ffurfiol i nodi tri chan mlwyddiant ei eni eleni(1717-2017)

 Cafodd deiseb Pantycelyn ei chychwyn ar ddechrau mis Awst, ac er mai cyfnod o amser cymharol fyr a neilltuwyd ar gyfer y gwaith o gasglu llofnodion ar y ddeiseb( 6 wythnos i bob pwrpas), cafwyd ymateb arbennig o dda o bob rhan o Gymru, gyda’r cyfanswm terfynol yn cyrraedd 1,111 o enwau.

Yn ystod y cyfnod hwn, dangoswyd cryn ddiddordeb yn y ddeiseb gan y Cyfryngau Cymraeg a Saesneg yng Nghymru ac fe gefais fy nghyfweld ar:

·         Taro’r Post, Radio Cymru

·         Bwrw Golwg, Radio Cymru

·         Pnawn Da, S4C

·         Breakfast Show, Radio Wales.

 

Yn ogystal, cafwyd erthyglau am y ddeiseb yn y papurau canlynol:

·         Western Mail

·         Daily Post

·         Y Goleuad

·         Y Tyst

Ar ben hynny, cefais gyfle hefyd i son am y ddeiseb wrth ddegau ar ddegau o unigolion mewn hyd at 12 o eglwysi yn ardal Mon a Gwynedd dros y cyfnod hwn mewn anerchiadau/pregethau yn rhinwedd fy waith fel Gweithiwr Cenhadol gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Dydw i ddim yn un am ganu clodydd fy hun, ond byddai’n amhosib rhestru faint yn union o unigolion sydd wedi mynegi diolch i mi a Tim Hodgins, Port Talbot am fynd ati i gynnal y ddeiseb hon. Dyma rai o’r sylwadau ddaeth i law:

Dwi mor ddiolchgar bod rhywun yn gwneud rhywbeth i gofio am Pantycelyn”.

Mae’n warthus nad yw Llywodraeth Cymru –ein llywodraeth ein hunain- wedi meddwl am ei gydnabod eleni ar adeg tri chan mlwyddiant ei eni”

“ Roedd William Williams yn athrylith. Byddai unrhyw genedl gall yn mynd allan o’i ffordd I ddathlu y math o gyfraniad wnaeth o i fywyd ei wlad.”

“ Byddai’n amhosib dychmygu Cymru heddiw heb  gyfraniad Williams Pantycelyn”

Mae hi mor bwysig bod pobl Cymru, yn Gymry Cymraeg a Chymry Di-Gymraeg yn dod i wybod yn iawn am gyfraniad y cawr hwn

“Mae’n rhaid inni fel cenedl gofio cymaint o gymwynaswr oedd Pantycelyn i’r iaith Gymraeg. Mi wnaeth o ddatblygu iaith swyddogol a ffurfiol Beibl William Morgan a’i throi hi’n gyfrwng byw, deinamig ac ystwyth ryfeddol yn ei holl waith.”

Mae Tim a finnau’n grediniol ein bod wedi cyniwair ryw ddiddordeb newydd ym Mhantycelyn trwy gyfrwng y ddeiseb hon, a’n gobaith ni ydi y bydd modd cynnal a datblygu’r momentwm hwn ymhellach dros weddill y flwyddyn hon ac ymlaen i’r flwyddyn nesaf hefyd.

Yn amlwg, a ninnau’n weithwyr cenhadol gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae cyfraniad enfawr Williams Pantycelyn i’r traddodiad ffydd yng Nghymru yn greiddiol i’r hyn a’n hysgogodd i gychwyn y ddeiseb.

Er gwaetha’r ffigyrau swyddogol sy’n dangos mai 7% yn unig o boblogaeth Cymru sydd bellach yn mynychu ein heglwysi, credwn er hynny fod Cymru’n wlad ysbrydol iawn o hyd. Yn wir, sut allai hi beidio â bod yn wlad ysbrydol o gofio am ddylanwad Cristnogaeth yma ar dirlun a phobl Cymru am 1,500 o flynyddoedd? Mae ysbrydolrwydd Cymru yn parhau’n elfen gref iawn yn ein seic genedlaethol.

Mae cyfraniad Williams Pantycelyn tuag at yr ysbrydolrwydd hynod wydn a chreiddiol hwn yn ein hanes genedlaethol felly yn haeddu cael ei gydnabod yn llawn ac mewn modd hollol deilwng gan ein Llywodraeth ein hunain.

Ond peidiwn ag anghofio chwaith am y modd y bu i Bantycelyn ymestyn terfynau’r iaith Gymraeg ei hun, a’i thywys i gyfeiriadau newydd a mentrus trwy gyfrwng ei 90 o weithiau llenyddol gwahanol.

Cyflwynodd fywyd a sioncrwydd newydd i’r iaith Gymraeg a’i rhyddhau rhag hualau’r ffurfioldeb a’r stiffrwydd a welwyd yn y cyfieithiadau Cymraeg o’r Beibl a’r Testament Newydd gan William Morgan a William Salesbury- er cymaint oedd camp y ddau wron hynny yn eu tro.

Ac wrth helpu sefydlu’r Seiadau ar draws Cymru o 1750 ymlaen- y grwpiau bach o gredinwyr newydd oedd wedi dod i ffydd yn dilyn diwygiadau’r 18ed ganrif-  roedd Pantycelyn hefyd yn gyfrifol am osod y seiliau ar gyfer datblygiad y Gymru Anghydffurfiol yn y 19ganrif, gan mai o’r seiadau hyn y blagurodd yr holl eglwysi a godwyd yng Nghymru yn ystod y ganrif honno  ac ymlaen.

A rhaid hefyd cofio am ei ddawn anghymarol fel Cwnselydd i filoedd o ddynion a merched Cymru yn y Seiadau hyn ar draws y wlad am nifer fawr o flynyddoedd. Roedd un o’i weithiau olaf “Drws y Society Profiad” yn dangos sut oedd y seiadau hyn yn gweithredu fel “clinig yr enaid” i’r mynychwyr: wrth i Williams eu hannog, eu calonogi a’u hysbrydoli yn eu bywyd Cristnogol.

Ac a wnes i son am yr 80,000 o filltiroedd a deithiodd o rownd Cymru dros 40 mlynedd di-dor?!!

I derfynu, hoffem erfyn arnoch chi fel Pwyllgor Deisebau i wneud eich gorau glas i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru i fynd ati i gydnabod William Williams, Pantycelyn a’i gyfraniad aruthrol I fywyd Cymru.

Rydym wedi cael ar ddeall fod Ken Skates, y Gweinidog Diwylliant eisoes fel pe bai’n cyflwyno esgusodion ar ran Llywodraeth Cymru trwy ddweud fod dathliadau Dylan Thomas a Roald Dahl( a gostiodd £2 filiwn i drethdalwyr Cymru!!) wedi cymryd tair mlynedd i’w paratoi.

Mawr obeithiwn y byddwch yn herio’r ffasiwn esgusodion tila gan Weinidog Diwylliant sy’n amlwg yn gwbl anwybodus a di-ddeall ynghylch diwylliant a hanes Cymru.

Er mwyn symud y drafodaeth yn ei blaen, hoffem gyflwyno’r syniadau hyn i’ch sylw fel Pwyllgor Deisebau:

·         Yn ein trafodaethau gyda gwahanol bobl dros yr wythnosau diwethaf- cafwyd consensws y byddai’n briodol iawn comisiynu darn o gelf arloesol a chreadigol yn Llanymddyfri er mwyn coffau Pantycelyn. Gellid seilio’r darn hwn o gelf ar y thema ganlynol: “Grym Geiriau i Symud ac Ysbrydoli Cenedl” gan gyfuno’r syniad o’r Gair( Y Ffydd Gristnogol) a’r holl eiriau gwahanol a sgwennodd Pantycelyn yn ystod ei oes.

·         Pam na ellid trosglwyddo cyfran o’r £400,000 oedd wedi ei glustnodi ar gyfer “Y Cylch Haearn” tuag at y gwaith celf hwn? Gan ddefnyddio arian trethdalwyr Cymru ar gyfer rhywbeth sy’n ein dyrchafu fel cenedl-yn hytrach na dewis ymdrybaeddu yn ein darostyngiad cenedlaethol.

·         Beth am greu Cystadleuaeth Gymreig- gan wahodd artistiaid o Gymru i gyflwyno eu syniadau ar gyfer y gwaith celf yn Llanymddyfri?

·         Beth am drefnu “Taith Pantycelyn”. Comisiynu sgriptwyr ac actor I ail-greu rhai o deithiau Pantycelyn a chyflwyno ei hanes yn uniongyrchol mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Gellid targedu ysgolion,ond byddai modd hefyd cynnal perfformiadau cymunedol a fyddai’n gallu denu diddordeb cyhoeddus yn ei fywyd a’i waith.

 

Yn olaf, hoffai Tim a finnau ddiolch o galon i gynrychiolwyr Y Pwyllgor Deisebau am eu croeso, eu cwrteisi a’u gwrandawiad parchus wrth inni gyflwyno’r ddeiseb yn ffurfiol yn y senedd yr wythnos ddiwethaf.

Mewn oes pan fo’r rhan fwyaf o bobl wedi cael llond bol go iawn gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn gyffredinol- yn enwedig yn sgil Brexit- roedd hi’n braf iawn gweld bod yna groeso I ddinasyddion Cymru gyflwyno achos i sylw ein gwleidyddion ni yng Nghaerdydd a chael cystal gwrandawiad wrth wneud hynny.

Hyderwn y gallwch ein cynorthwyo i symud yr ymgyrch hon yn ei blaen.

Diolch yn fawr

Yr eiddoch yn gywir

Aled Gwyn Jȏb

Caernarfon